


Yn 2025, mae L (49 oed) a B (10 oed) yn ymgymryd â her. Pob dydd, POB DYDD, maen nhw’n mynd allan i’r awyr agored i wneud rhywbeth difyr yn y byd naturiol. Dechreuon nhw ar 1af Ionawr yn gwneud ffau allan o frigau oedd ar lawr wrth ymyl coeden ar stad o dai yng ngogledd Llundain. Ers hynny, maen nhw wedi darganfod gweithgareddau fel chwilota’r traeth a dynodi llwybrau; dod yn Dditectifs Natur; gwneud tanau; rasio malwod; gwylio grifft llyffant yn tyfu’n benbyliaid; dringo llawer o goed; chwilio am ffyn hud yn y goedwig ac am gynhwysion i greu diodydd hud mewn iardiau cefn sydd wedi tyfu’n wyllt; gwneud clociau haul a datrys sut maen nhw’n gweithio; gwneud ffrindiau gyda gwylanod; syllu ar y sêr a gwylio’r lleuad llawn yn codi, yn ogystal â llu o bethau eraill. Ac mae ganddyn nhw hanner blwyddyn i fynd o hyd! Sy’n dda, gan nad ydyn nhw wedi gweithio allan sut i hedfan barcud eto nac wedi bod yn pysgota am grancod.
Maen nhw’n cadw blog ar wefan ‘Trails, Bales and Snails’ ac yn postio’n ddyddiol ar Instagram a Facebook am eu her ddiweddaraf. Meddyliodd L y byddai’n syniad da dechrau ar rif 365 ar 1af Ionawr a chyfri i lawr. Mae B wastad wedi meddwl bod hyn dipyn yn rhyfedd, ond dyna ni; maen nhw wedi hen basio 200 ac yn prysur gyrraedd 100!
Maen nhw bob amser yn chwilio am syniadau newydd (mae angen cryn dipyn arnyn nhw) ac maen nhw wrth eu boddau’n dysgu beth yw hoff weithgareddau awyr agored teuluoedd eraill. Dewch o hyd iddyn nhw ar Instagram a Facebook ‘Trails, Bales and Snails’ ac edrychwch ar y wefan os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth.

Cymerwch gip ar ein gwefan a dilynwch ni ar gyfer Llwybrau, Helfeydd a Digwyddiadau.











